Amser maith yn ôl, yn agos i fynyddoedd Eryri yng Ngogledd Cymru, roedd tywysog dewr a pharchus o’r enw Llywelyn yn byw.
Roedd gan Llywelyn gi dewr a ffyddlon o’r enw Gelert. Roedd y ddau wrth eu boddau yn hela gyda’i gilydd yn y mynyddoedd.
Roedd gan Llywelyn mab bach annwyl iawn. Yn anffodus bu farw mam y babi, a thorrodd hyn galon Llywelyn. Roedd Llywelyn wedi addo i’w wraig y byddai’n gofalu am eu mab, a dyna a wnaeth.
Roedd Llywelyn yn edrych ymlaen at ei fab tyfu er mwyn i’r ddau ohonynt fynd i hela gyda’i gilydd. Edrychodd ymlaen i’r ddau’n hela’r bleiddiaid mawr a’r anifeiliaid gwyllt eraill oedd yn byw ym mynyddoedd a choedwigoedd tywyll Gogledd Cymru.
Un diwrnod, roedd Llywelyn a’i ffrindiau yn paratoi i fynd hela. Roedd y babi’n cysgu’n drwm yn ei grud ar bwys y tân mawr twym, gyda’r nyrs oedd yn gofalu amdano yn agos.
Penderfynnodd Llywelyn i adael Gelert i ofalu am ei gartref a’i fab.
Daeth Llywelyn adref yn hwyr. Roedd wedi blino’n lân, felly roedd e’n edrych ymlaen at weld ei fab ac ymlacio o flaen y tân.
Ond wrth iddo fynd i mewn i’r ystafell gwelodd olygfa ofnadwy…
Roedd popeth yn ben i waered, roedd lluniau wedi’u rhwygo o’r wal a roedd crud y baban yn wag ar y llawr. Roedd bron popeth wedi’u rhwygo’n ddarnau a wedi’u orchuddio gyda gwaed, hyd yn oed y blancedi oedd yn nghrud y baban.
Clywodd Llywelyn pawennau yn agosau. Trodd o gwmpas i weld Gelert, ei gi fyddlon, wedi ei staenio gan waed.
‘Y CI DDRWG!’ rhuodd y tywysog. ‘Rwyt ti wedi lladd fy mab!’
Heb oedi, gafaelodd Llywelyn yn ei ddagr. O fewn eiliadau, roedd Llywelyn wedi lladd y ci. ‘Fy mab, fy mab annwyl!’ criodd Llywelyn.
Wrth iddo edrych lawr ar gorff Gelert, clywodd Llywelyn cri gwan yn agos i’r crud. Rhuthrodd Llywelyn draw a gafaelodd yn ei fab yn dynn.
Yn rhy hwyr, trodd Llywelyn i weld corff blaidd anferth yn gorwedd yn farw ar y llawr ar bwys y crud.
Diolch i Gelert, roedd y babi yn ddianaf, gyda dim un crafiad na darn o waed arno.
Roedd Llywelyn llawn euogrwydd. Roedd wedi lladd ei gi ffyddlon a dewr, y ci oedd wedi achub bywyd ei fab trwy ladd y blaidd.
Claddwyd corff Gelert y tu allan i waliau’r castell, ar bwys yr afon.
Yna, mae yn garreg anferth sydd gydag enw Gelert arni yn dweud hanes y ci enwog.
Allwch chi ddyfalu enw’r pentref yma?
Published: Apr 6, 2014
Latest Revision: Aug 21, 2014
Ourboox Unique Identifier: OB-6411
Copyright © 2014